Croeso

YSGOL MAES GARMON
NI LWYDDIR HEB LAFUR
Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno gwefan yr ysgol ar gyfer 2022-23. Arni, cewch ddarllen am amcanion yr ysgol yn ogystal ag am ethos a gwerthoedd yr ysgol. Hefyd, cewch flas o fywyd academaidd a diwylliannol prysur yr ysgol.
Fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint, sy’n cael ei bwydo gan bump o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, rydym yn cynnig addysg hollol ddwyieithog i’n holl ddisgyblion. Gall disgyblion o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ymuno â’r Cwrs Trochi yn Ysgol Maes Garmon ym mlwyddyn 7 er mwyn dysgu Cymraeg dan ofal athrawon iaith arbenigol.
Mae pob disgybl yn Ysgol Maes Garmon yn cael ei ystyried fel unigolyn sy’n aelod pwysig o ‘deulu’ Ysgol Maes Garmon. Mae’r egwyddor sylfaenol yma o barchu pob unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn ganolog yn sail i holl ethos yr ysgol ac wrth wraidd ei gwerthoedd a’i llwyddiant fel ysgol dda. Rydym yn hyderus y bydd ein disgyblion unigol yn falch o fod yn aelodau o’r ‘teulu’ yma, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd, ac yn gallu gwneud cyfraniad positif i Gymru ac Ewrop amlieithog.
Mae ethos gofalgar, agored a hapus lle mae disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn ffynnu wedi bod yn un o gryfderau’r ysgol erioed. Mae ein hathrawon yn mynd yr ail filltir i gynnig amrywiol gyfleoedd allgyrsiol i’n disgyblion er mwyn iddynt gael profiadau ehangach.
Mae’r ffocws ar gyflawni potensial pob disgybl, a gwneir pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon uchaf o gyflawniad academaidd.
Mae arwyddair yr ysgol, ‘Ni Lwyddir Heb Lafur’, mor berthnasol heddiw â phan gafodd ei fabwysiadu ym 1961. Yn syml, mae’n golygu nad oes modd llwyddo heb weithio’n galed, a dyma un o werthoedd craidd yr ysgol hon.

Y Brifathrawes – Bronwen Hughes B.Add
NEWYDDION
Cylchlythyr Gorffennaf 2022 - Newletter July 2022
Cylchlythyr Ebrill 2022 - Newsletter
Cylchlythyr Gorffennaf 2022 - Newletter July 2022
NEWYDDION
Cylchlythyr Gorffennaf 2022 - Newletter July 2022
Llongyfarchiadau i chi! 👏🏻👏🏻👏🏻
Llongyfarchiadau mawr i bob un am gynrychioli Gogledd Ddwyrain Cymru ym mhêl rwyd heddiw 🏐⭐️ Congratulations to you all for representing North East Wales at Netball today
Mae neges bwysig am weithredu diwydiannol gan yr NEU wedi ei rhoi ar Weduc. An important message regarding the NEU’s industrial action has been posted to our Weduc site.
© Ysgol Maes Garmon