Cyfleusterau
Adeiladwyd yr ysgol yn 1964 ac ers hynny fe gafwyd sawl estyniad a chynllun adnewyddu llwyddiannus. Yn ystod y ddegawd olaf, fe adeiladwyd bloc Dylunio a Thechnoleg newydd, ac fe adnewyddwyd yr holl labordai Gwyddoniaeth a ffreutur yr ysgol. Mae’r adeilad yn gymharol fychan ac mae disgyblion yn symud o gwmpas yn ddidrafferth. Mae’r ysgol yn cael defnyddio canolfan hamdden yr Wyddgrug yn ystod oriau ysgol sy’n golygu bod amrywiaeth eang o chwaraeon a chlybiau ar gael i ddisgyblion.
ADDYSG GORFFOROL
Darpariaeth lawn ar gyfer Chwaraeon a Hamdden
Mae’r Ganolfan Chwaraeon a’r Gampfa yn cynnig cyfleusterau ar gyfer sboncen, badminton, tennis dan do, tennis bwrdd, pêl fasged, a phwll nofio.
Caeau chwarae gyda meysydd hoci, pêl-droed, rygbi, a chriced, trac athletau, cyrtiau tennis a maes artiffisial o dan lifoleuadau.
TECHNOLEG GWYBODAETH
Darpariaeth lawn o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn 3 ystafell technoleg gwybodaeth penodol.
150+ dyfais Chromebook i’w defnyddio yn draws adrannol drwy’r ysgol.
Sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol.
Rhwydwaith gwifr a di-wifr sy’n rhoi mynediad at rwydweithiau y Sir a’r Rhyngrwyd.
© Ysgol Maes Garmon