Ffreutur

Ffreutur

Mae ffreutur yr ysgol ar agor yn ystod amser egwyl ac amser cinio. 

Fe adnewyddwyd y ffreutur yn 2012. Mae staff y ffreutur yn paratoi amrywiaeth o fwyd blasus gan gydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ar fwyta’n iach.

Gweithredir system ddi-arian yn y ffreutur. Mae gan bob disgybl gyfrif personol gyda mynediad trwy gyfrwng rhif adnabod neu brint bawd biometrig. Mae’n rhaid rhoi credyd yn y cyfrif gydag arian neu siec yn daladwy i Gyngor Sir y Fflint cyn prynu bwyd.

Ni fydd bwyd yn cael ei wrthod i unrhyw ddisgybl os nad oes ganddynt arian yn eu cyfrif. Gall rhieni osod cyfyngiad ar faint o arian mae eu plentyn yn ei wario bob dydd a gellir gofyn am argraffiad o bopeth a brynir wrth gysylltu â chogydd yr ysgol, Mrs Yvonne Cheetham.