Mae llawer o’n disgyblion yn teithio i’r ysgol mewn bws. Yn y bore, mae bysiau yn disgyn disgyblion yn y safleoedd bysiau o flaen y ganolfan chwaraeon. Yn y prynhawn, mae bysiau’n casglu disgyblion naill ai o’r ganolfan chwaraeon neu o fuarth Ysgol Maes Garmon.
Pan mae disgyblion yn dechrau yn yr ysgol, rhoddir pas bws iddynt i’w ddangos i’r gyrrwr bob bore a phrynhawn. Mae’n rhaid i rieni wneud cais am bas bws ar gyfer eu plentyn cyn i’r disgybl ddechrau yn yr ysgol ym mlwyddyn 7. Rhoddir ffurflenni i ddisgyblion fel rhan o’u pecyn gwybodaeth pontio.
Nid yw’r ysgol yn gyfrifol am gludiant ysgol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at Adran Cludiant Ysgol Sir y Fflint ar 01352 752 121.