Croeso

YSGOL MAES GARMON
NI LWYDDIR HEB LAFUR

Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno gwefan yr ysgol ar gyfer 2023-2024. Arni, cewch ddarllen am amcanion yr ysgol yn ogystal ag am ethos a gwerthoedd yr ysgol. Cewch hefyd flas o fywyd academaidd a diwylliannol prysur yr ysgol.

              Fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint, sy’n cael ei bwydo gan chwech o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, rydym yn cynnig addysg hollol ddwyieithog i’n holl ddysgwyr. Gall dysgwyr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ymuno â’n Cwrs Trochi yn Ysgol Maes Garmon ym mlwyddyn 7 er mwyn dysgu Cymraeg dan ofal athrawon iaith arbenigol.      

             Mae pob dysgwr yn Ysgol Maes Garmon yn cael ei ystyried fel unigolyn sy’n aelod pwysig o ‘deulu’ Ysgol Maes Garmon. Mae’r egwyddor sylfaenol yma o barchu pob unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn ganolog yn sail i holl ethos yr ysgol ac wrth wraidd ei gwerthoedd a’i llwyddiant fel ysgol dda. Rydym yn hyderus y bydd ein dysgwyr unigol yn falch o fod yn aelodau o’r ‘teulu’ yma, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd, ac yn gallu gwneud cyfraniad positif i Gymru ac Ewrop amlieithog.

               Mae ethos gofalgar, agored a hapus lle mae dysgwyr yn teimlo’n gartrefol ac yn ffynnu wedi bod yn un o gryfderau’r ysgol erioed. Mae ein hathrawon yn mynd yr ail filltir i gynnig amrywiol gyfleoedd allgyrsiol i’n disgyblion er mwyn iddynt gael profiadau ehangach.

Mae’r ffocws ar gyflawni potensial pob dysgwr, a gwneir pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon uchaf o gyflawniad academaidd.

               Mae arwyddair yr ysgol, ‘Ni Lwyddir Heb Lafur’, mor berthnasol heddiw â phan gafodd ei fabwysiadu ym 1961. Yn syml, mae’n golygu nad oes modd llwyddo heb weithio’n galed, a dyma un o werthoedd craidd yr ysgol hon.

               

Ein Pennaeth – Bronwen Hughes B.Add

Newyddion Diweddaraf

Digwyddiadau ar y Gorwel:

16eg o Fai, 2024- Noson Wybodaeth y Cwrs Trochi

20fed o Fehefin, 2024- Noson Wybodaeth Blwyddyn 6

9fed o Orffennaf, 2024- Fforwm Rhieni a Gofalwyr