Yn ystod tywydd garw yn y gaeaf, fe’n gorfodir i gau’r ysgol ar adegau. Nid yw hyn yn benderfyniad hawdd ac mae’n rhaid ei seilio ar sicrhau iechyd a diogelwch disgyblion a staff.
Gwneir y penderfyniad i gau’r ysgol cyn gynted â phosib, a bydd y wybodaeth yn cael ei gyfathrebu trwy gyfrwng y dulliau canlynol:
1) Neges ar dudalen gartref y wefan hon.
2) Neges ar brif gyfrif twitter yr ysgol @MaesGarmon