Cynllun Trochi

Cynllun Trochi Ysgol Maes Garmon

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Ysgol Maes Garmon wedi croesawu disgyblion o ysgolion cynradd ffrwd Saesneg i flwyddyn 7 fel rhan o Gynllun Trochi yr ysgol. Dan arweiniad Mrs Gwennan Parry Thomas, mae’r broses o drochi’r disgyblion yn y Gymraeg yn dechrau ym mlwyddyn 6, gyda’r disgyblion yn dod i’r ysgol yn ddyddiol yn dilyn hanner tymor mis Mai er mwyn eu paratoi ar gyfer addysg uwchradd Gymraeg. Bydd holl bynciau blwyddyn 7 yn cael eu haddysgu i’r trochwyr yn ddwyieithog, gan gynyddu’r defnydd o Gymraeg wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi. Bydd cyfleoedd ychwanegol iddynt hefyd, gan gynnwys taith i wersyll Glan-llyn.

 

Wrth i’w hyder gynyddu yn ystod blwyddyn 8, bydd y disgyblion yn integreiddio gyda dosbarthiadau prif ffrwd mewn rhai pynciau. Erbyn blwyddyn 9, bydd y trochwyr wedi ymuno efo’u cyfoedion ac yn dilyn cwricwlwm llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy gydol eu taith, bydd Mes Thomas a’r adran Gymraeg yn cefnogi’r trochwyr wrth iddynt ymgyfarwyddo â’r iaith a chymryd mantais o’r holl gyfleoedd arbennig sydd iddynt yn Ysgol Maes Garmon.

 

Bydd cyfle i ddysgwyr blwyddyn 5 a 6 ymuno mewn gweithdai pwrpasol i ddysgu mwy am y Cynllun Trochi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa@ymg.cymru am gopi digidol o brosbectws y Cynllun Trochi, neu ffoniwch 01352 750678 i drefnu apwyntiad i ymweld â’r ysgol.