Ysgol Maes Garmon

Ffreutur yr Ysgol

Ffreutur yr Ysgol

Mae cwmni Arlwyo ‘NEWydd’ yn darparu bwyd blasus ac iachus cyn i’r ysgol agor (08:15 ymlaen) ac yn ystod  amser egwyl ac amser cinio. Fe adnewyddwyd y ffreutur yn 2012.

Mae staff y ffreutur yn paratoi amrywiaeth o fwyd blasus gan gydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ar fwyta’n iach.

Gweithredir system ddi-arian yn y ffreutur. Mae gan bob dysgwr gyfrif personol gyda mynediad trwy gyfrwng rhif adnabod neu brint bawd biometrig. Mae’n rhaid rhoi credyd yn y cyfrif gydag arian neu drwy’r app Weduc cyn prynu bwyd. Ni fydd bwyd yn cael ei wrthod i unrhyw ddysgwr os nad oes ganddynt arian yn eu cyfrif. Gall rhieni osod cyfyngiad ar faint o arian mae eu plentyn yn ei wario bob dydd a gellir gofyn am argraffiad o bopeth a brynir wrth gysylltu â chogydd yr ysgol, Mrs Yvonne Cheetham.