Ffreutur yr Ysgol

Ffreutur yr Ysgol

Mae ffreutur yr ysgol ar agor cyn i’r ysgol agor, yn ystod amser egwyl ac amser cinio.  Fe adnewyddwyd y ffreutur yn 2012. Mae staff y ffreutur yn paratoi amrywiaeth o fwyd blasus gan gydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ar fwyta’n iach. Mae ffrwythau ar gael yn rhad ac am ddim i’r dysgwyr. Gweithredir system ddi-arian yn y ffreutur. Mae gan bob dysgwr gyfrif personol gyda mynediad trwy gyfrwng rhif adnabod neu brint bawd biometrig. Mae’n rhaid rhoi credyd yn y cyfrif gydag arian neu drwy’r app Weduc cyn prynu bwyd. Ni fydd bwyd yn cael ei wrthod i unrhyw ddisgybl os nad oes ganddynt arian yn eu cyfrif. Gall rhieni osod cyfyngiad ar faint o arian mae eu plentyn yn ei wario bob dydd a gellir gofyn am argraffiad o bopeth a brynir wrth gysylltu â chogydd yr ysgol, Mrs Yvonne Cheetham.