Cau'r Ysgol Mewn Argyfwng

Cau'r Ysgol Mewn Argyfwng.

Yn ystod tywydd eithafol, fe’n gorfodir i gau’r ysgol ar adegau. Nid yw hyn yn benderfyniad hawdd ac mae’n rhaid ei seilio ar sicrhau iechyd a diogelwch disgyblion a staff. 


Gwneir y penderfyniad i gau’r ysgol cyn gynted â phosib, a bydd y wybodaeth yn cael ei gyfathrebu trwy gyfrwng y dulliau canlynol:

1) Neges ar dudalen gartref y wefan hon yn ogystal â thrwy’r app Weduc (Reach More Parents).

2) Neges ar brif gyfrif X yr ysgol (@MaesGarmon) ac Instagram.

3) Neges ar wefan Cyngor Sir y Fflint yn yr adran cau ysgol mewn argyfwng.