Sixth Form
Welcome to the Sixth Form information page
Mae’n bleser cyflwyno tudalen gwybodaeth y Chweched Dosbarth ar gyfer carfan Medi 2025. Cewch lu o wybodaeth ddefnyddiol fydd yn eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y cam nesaf yn eich taith addysgu.
Trwy ddychwelyd i Chweched Dosbarth Ysgol Maes Garmon, byddwch yn ymuno â rhestr hir o fyfyrwyr llwyddiannus sydd wedi parhau â’u haddysg mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig neu wedi’u cyflogi’n syth wedi diwedd eu cyrsiau Safon Uwch. Mae’r ffaith bod ein myfyrwyr yn medru’r Gymraeg yn rhugl yn fantais aruthrol, a byddwch chi’n parhau i ymfalchïo yn y ffaith eich bod chi’n ddwyieithog ac yn fodelau rôl i ddysgwyr iau yr ysgol.
Mae canlyniadau Safon Uwch yr ysgol yn gyson uchel ac rydym yn falch iawn o’n llwyddiant. Gallaf eich sicrhau y byddwch chi fel unigolyn yn derbyn y gefnogaeth orau wrth i chi gael eich llywio trwy eich cyrsiau Safon Uwch.
Dymunwn y gorau i bob un ohonoch wrth i chi weithio’n galed tuag at eich arholiadau TGAU terfynol. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i Chweched Dosbarth Ysgol Maes Garmon ym mis Medi 2025!